plwg-logo

Gwasanaeth paru diwylliant ac addysg ledled Cymru yw plwg.cymru, sy’n cysylltu addysgwyr ac ysgolion gyda phobl greadigol a sefydliadau diwylliannol, i danio creadigrwydd disgyblion.

Mae’n gwneud hyn drwy ‘Gyfleoedd’:

Mae creu Cyfle ar Plwg yn rhoi gwybod i addysgwyr neu bobl greadigol bod gennych rywbeth i’w gynnig, neu eich bod yn chwilio am rywbeth: p’un a ydych chi’n athro sy’n chwilio am gymorth i greu profiadau dysgu ysbrydoledig, neu’n berson creadigol sydd â gweithdy i blant a phobl ifanc yr hoffech ei gynnal mewn ysgolion, gallwch greu Cyfle er mwyn i bobl eraill ddod o hyd i chi.

Drwy chwilio am Gyfle ar Plwg, gallwch ddod o hyd i bobl sydd am eich helpu i danio creadigrwydd mewn plant a phobl ifanc.

Pan fyddwch chi’n creu Cyfle, fe welwch gyfres o gwestiynau a fydd yn eich helpu i gyfleu’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, neu’r hyn sydd gennych i’w gynnig. Bydd cwestiynau ynghylch Cyfnodau Allweddol, Ffurf ar Gelfyddyd, Profiad Arbenigol, Iaith, Gwybodaeth Ariannol, Nodau Dysgu a Chysylltiadau â’r Cwricwlwm, Gofynion ac Adnoddau Staff, a mwy.

Yna, drwy rym ein halgorithm hudol, bob tro y byddwch chi’n mewngofnodi, bydd y cyfleoedd sy’n addas i’ch dewisiadau yn ymddangos ar frig y rhestr. Fel arall, gallwch sgrolio drwyddynt, defnyddio’r teclyn chwilio testun rhydd, neu ddefnyddio hidlyddion Chwilio Manwl i chwilio am Gyfleoedd eraill. Pwy a ŵyr pa ddrysau fydd yn agor?

Dewch o hyd i’ch partner perffaith ar plwg.cymru

Creu Cyfle

Dewch o hyd i’ch partner perffaith. Creu Cyfle ar Plwg