plwg-logo

Telerau ac Amodau

1. Cyflwyniad

1.1 Bydd y telerau ac amodau hyn yn rheoli’ch defnydd o’n gwefan.

1.2 Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn yn llawn; gan hynny, os ydych yn anghytuno â’r telerau ac amodau hyn neu unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.

1.3 Os byddwch yn cofrestru â’n gwefan, yn cyflwyno unrhyw ddeunydd i’n gwefan neu’n defnyddio unrhyw un o wasanaethau ein gwefan, gofynnwn i chi gytuno’n ffurfiol i’r telerau ac amodau hyn.

1.4 Rhaid i chi fod yn o leiaf 18 oed i ddefnyddio ein gwefan; drwy ddefnyddio ein gwefan neu gytuno i’r telerau ac amodau hyn, rydych yn gwarantu ac yn mynegi i ni eich bod yn 18 oed o leiaf.

1.5 Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis; drwy ddefnyddio ein gwefan neu gytuno i’r telerau ac amodau hyn, rydych yn cydsynio â’n defnydd o gwcis yn unol ag amodau ein polisi preifatrwydd a’n polisi cwcis.

2. Rhybudd hawlfraint

2.1 Hawlfraint (c) 2017 Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig.

2.2 Yn unol â darpariaethau ffurfiol yr telerau ac amodau hyn:

(a) ni, ynghyd â’n trwyddedwyr, sydd piau ac sy’n rheoli pob hawlfraint a hawl eiddo deallol arall ar ein gwefan a’r deunydd ar ein gwefan;

(b) cedwir pob hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill ar ein gwefan a’r deunydd ar ein gwefan.

3. Trwydded i ddefnyddio ein gwefan

3.1 Cewch:

(a) edrych ar dudalennau o’n gwefan mewn porwr gwe;

(b) lawrlwytho tudalennau o’n gwefan i’w storio mewn porwr gwe;

(c) argraffu tudalennau o’n gwefan:

(d) ffrydio ffeiliau sain a fideo o’n gwefan; a

(e) defnyddio gwasanaethau ein gwefan drwy gyfrwng porwr gwe, 

yn unol â darpariaethau eraill yr telerau ac amodau hyn.

3.2 Ac eithrio fel y caniateir yn ffurfiol gan Adran 3.1 neu ddarpariaethau eraill y telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â lawrlwytho unrhyw ddeunydd o’n gwefan na chadw unrhyw ddeunydd o’r fath ar eich cyfrifiadur.

3.3 Dim ond at eich dibenion personol a busnes eich hun y cewch ddefnyddio ein gwefan, a rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion eraill.

3.4 Ac eithrio fel y caniateir yn ffurfiol gan y telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â golygu nac addasu fel arall unrhyw ddeunydd ar ein gwefan.

3.5 Oni bai eich bod yn berchen ar yr hawliau perthnasol ar y deunydd neu yn eu rheoli, rhaid i chi beidio:

(a) ailgyhoeddi deunydd o’n gwefan (gan gynnwys ailgyhoeddi ar wefan arall); (b) gwerthu, hurio nac is-drwyddedu deunydd o’n gwefan; (c) dangos unrhyw ddeunydd o’n gwefan yn gyhoeddus; (d) defnyddio deunydd o’n gwefan at ddiben masnachol; (d) ailddosbarthu deunydd o’n gwefan. 3.6 Er gwaethaf Adran 3.5, cewch ailddosbarthu manylion Cyfle unigol neu ein cylchlythyr ar ffurf print ac electronig i unrhyw un.

3.7 Cadwn yr hawl i gyfyngu ar fynediad at rannau o’n gwefan, neu yn wir ein gwefan gyfan, fel y gwelwn yn dda; rhaid i chi beidio ag osgoi na mynd heibio, na cheisio osgoi na mynd heibio, i unrhyw fesurau cyfyngu ar fynediad ar ein gwefan.

4. Porthiant RSS

4.1 Cewch fynediad at ein porthiant RSS drwy ddefnyddio darllenwr neu gydgasglwr RSS. 4.2 Drwy fynd at ein porthiant RSS, rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn. 4.3 Os derbyniwch y telerau ac amodau hyn, rhoddwn drwydded – anhrosglwyddadwy, nad yw’n neilltuedig, ac na ellir ei his-drwyddedu – i ddangos cynnwys o’n porthiant RSS ar ffurf heb ei addasu ar unrhyw wefan anfasnachol sy’n eiddo i chi ac a redir gennych chi, ar yr amod nad ydych yn cyfuno ein porthiant RSS ag unrhyw borthiant arall pan fyddwch yn ei ddangos yn unol â’r Adran 4.3 hon. 4.4 Un o amodau’r drwydded hon yw eich bod yn cynnwys credyd i ni a hyperddolen i’n gwefan ar bob tudalen lle cyhoeddir y porthiant RSS (ar ffurf rydyn ni’n ei dynodi o bryd i’w gilydd, neu os nad ydyn ni’n dynodi ffurf benodol, ar ffurf resymol). 4.5 Cawn ddirymu unrhyw drwydded a ddatgenir yn yr Adran 4 hon ar unrhyw adeg, boed hynny gyda neu heb rybudd neu eglurhad.

5. Defnydd derbyniol

5.1 Rhaid i chi beidio â: (a) defnyddio ein gwefan mewn unrhyw fodd neu weithredu mewn unrhyw fodd sy’n peri, neu a allai beri, niwed i’r wefan neu amharu ar berfformiad, argaeledd neu hygyrchedd y wefan; (b) defnyddio ein gwefan mewn unrhyw fodd sy’n anghyfreithlon, yn dwyllodrus neu’n niweidiol, neu mewn cysylltiad ag unrhyw ddiben neu weithgaredd anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol; (c) defnyddio ein gwefan i gopïo, storio, gwesteia, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi na dosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu sy’n gysylltiedig ag) unrhyw ysbïwedd, firws cyfrifiadurol, firysau Ceffyl Pen Troea, mwydyn, cofnodwr trawiadau bysellau, gwreiddwedd neu feddalwedd cyfrifiadurol maleisus arall; (d) cynnal unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomatig (gan gynnwys, ymhlith eraill, crafu, cloddio data, echdynnu data a chynaeafu data) ar ein gwefan neu mewn perthynas â hi heb ein caniatâd ysgrifenedig ffurfiol; (e) cyrchu neu ryngweithio fel arall â’n gwefan gan ddefnyddio unrhyw robot, corryn neu fodd awtomatig arall ac eithrio at ddibenion mynegeio peiriant chwilio; (f) torri’r gorchmynion a ddatgenir mewn unrhyw ffeil robots.txt ar gyfer ein gwefan; na (g) defnyddio data a gasglwyd o’n gwefan ar gyfer unrhyw weithgaredd marchnata uniongyrchol (gan gynnwys, ymhlith eraill, marchnata e-bost, marchnata SMS, telefarchnata a phostio uniongyrchol). 5.2 Rhaid i chi beidio â defnyddio data a gasglwyd o’n gwefan i gysylltu ag unigolion, cwmnïau na phobl neu endidau eraill. 5.3 Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni drwy ein gwefan, neu mewn perthynas â’n gwefan, yn wir, yn gywir, yn gyfredol, yn gyflawn ac nad yw’n gamarweiniol.

6. Cofrestru a chyfrifon

6.1 Er mwyn bod yn gymwys i gael cyfrif ar ein gwefan o dan yr Adran 6 hon, rhaid i chi fod yn byw neu wedi’ch lleoli yn y Deyrnas Unedig. 6.2 Cewch gofrestru i gael cyfrif gyda’n gwefan naill ai drwy ddefnyddio manylion cyfrif Google i gofrestru gan ddefnyddio Auth0, neu drwy lenwi a chyflwyno’r ffurflen cofrestru cyfrif ar ein gwefan, a chlicio ar y ddolen dilysu yn y neges e-bost y bydd y wefan yn ei hanfon atoch. 6.3 Rhaid i chi beidio â gadael i neb arall ddefnyddio eich cyfrif i gael mynediad at y wefan. 6.4 Rhaid i chi roi gwybod i ni yn syth yn ysgrifenedig os cewch wybod am unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’ch cyfrif. 6.5 Rhaid i chi beidio â defnyddio cyfrif neb arall i gael mynediad at y wefan, oni bai bod gennych ganiatâd ffurfiol y person hwnnw i wneud hynny.

7. Defnyddio manylion mewngofnodi

7.1 Os byddwch yn cofrestru i gael cyfrif ar ein gwefan heb ddefnyddio eich manylion eich cyfrif Google, gofynnir i chi ddewis enw defnyddiwr a chyfrinair. 7.2 Rhaid i’ch enw defnyddiwr beidio â bod yn debygol o gamarwain a rhaid iddo gydymffurfio â’r rheolau cynnwys a nodwyd yn Adran 12; rhaid i chi beidio â defnyddio’ch cyfrif ar gyfer dynwared neb, na mewn cysylltiad â hynny. 7.3 Rhaid i chi gadw’ch cyfrinair yn gyfrinachol. 7.4 Rhaid i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig yn syth os cewch wybod bod eich cyfrinair wedi’i ddatgelu. 7.5 Chi sy’n gyfrifol am unrhyw weithgaredd ar ein gwefan sy’n deillio o beidio â chadw’ch cyfrinair yn gyfrinachol, a gellid eich dal yn atebol dros unrhyw golledion sy’n deillio o ddiffyg o’r fath.

8. Canslo ac atal cyfrif

8.1 Gallem: (a) wahardd eich cyfrif; (b) canslo eich cyfrif; a/neu (c) olygu manylion eich cyfrif, ar unrhyw adeg drwy ein disgresiwn ein hunain heb rybudd nac eglurhad. 8.2 Gallwch ganslo eich cyfrif ar ein gwefan gan ddefnyddio eich panel rheoli cyfrif ar y wefan.

9. Defnyddio nodweddion y wefan

9.1 Bydd gan ddefnyddwyr cofrestredig fynediad at nodweddion ychwanegol ar ein gwefan fel y byddwn yn pennu o bryd i’w gilydd, a allai gynnwys: (a) cyfleusterau i lenwi proffil personol manwl ar y wefan, i gyhoeddi’r proffil hwnnw ar y wefan, ac i gyfyngu ar gyhoeddi’r proffil hwnnw i grwpiau neu unigolion penodol sydd wedi’u cofrestru ar y wefan; (b) cyfleusterau i lenwi rolau proffesiynol manwl ar y wefan, i gyhoeddi’r rolau hynny ar y wefan, ac i gyfyngu ar gyhoeddi’r proffil hwnnw i grwpiau neu unigolion penodol sydd wedi’u cofrestru ar y wefan; (c) cyfleusterau i greu Cyfleoedd, rheoli Cyfleoedd rydych wedi’u creu, dileu Cyfleoedd rydych wedi’u creu. (d) cyfleuster i anfon negeseuon preifat drwy’r wefan at unigolion sydd wedi’u cofrestru ar y wefan sydd wedi postio Cyfleoedd sydd o ddiddordeb i chi; a (e) chyfleuster i bostio a chyhoeddi testun a chyfryngau ar y wefan. 9.2 Rydych yn cydnabod na ellir ein dal ni’n gyfrifol am ymddygiad ein defnyddwyr, ar y wefan nac oddi arni, ac ni allwn warantu bod unrhyw wybodaeth a ddarperir gan ddefnyddiwr yn wir, yn gywir, yn gyflawn, yn gyfredol ac nad yw’n gamarweiniol; ac yn unol ag Adran 15 ni fyddwch yn ein dal yn atebol dros unrhyw golled na niwed sy’n deillio o unrhyw ymddygiad defnyddiwr na gwybodaeth defnyddiwr. 9.3 Rydych yn cytuno i gyhoeddi negeseuon yn ymwneud â chi, gan eraill, ar ein gwefan; rydych yn cydnabod y gallai negeseuon o’r fath fod yn feirniadol neu’n ddifenwol neu yn anghyfreithlon fel arall; ac, yn amodol ar Adran 15.1, rydych yn cytuno na fyddwch yn ein dal ni’n atebol o ran unrhyw negeseuon o’r fath, os ydyn ni’n ymwybodol o’r fath negeseuon neu os ddylen ni fod yn ymwybodol o’r fath negeseuon.

10. Proffiliau personol a rolau

10.1 Rhaid i’r holl wybodaeth rydych yn ei darparu yn rhan o broffil personol neu rôl ar y wefan fod yn wir, yn gywir, yn gyfredol, yn llawn a heb fod yn gamarweiniol. 10.2 Rhaid i chi gadw eich proffil personol a’ch rolau ar y wefan yn gyfredol. 10.3 Rhaid i wybodaeth y proffil personol a’r rolau hefyd gydymffurfio â darpariaethau Adran 5 ac Adran 12.

11. Eich cynnwys: trwydded

11.1 Yn y telerau ac amodau hyn, ystyr \“eich cynnwys”\ yw’r holl weithiau a’r deunyddiau (gan gynnwys, ymhlith eraill, testun, graffeg, delweddau, deunydd sain, deunydd fideo, deunydd sain-weledol, sgriptiau, meddalwedd a ffeiliau) rydych yn eu cyflwyno i ni neu i’n gwefan i’w storio neu eu cyhoeddi ar ein gwefan, eu prosesu ganddi, neu eu trosglwyddo drwyddi. 11.2 Rydych yn rhoi i ni drwydded fyd-eang, ddi-alw’n-ôl, anghyfyngedig, heb freindal i ddefnyddio, atgynhyrchu, storio a, gyda’ch caniatâd penodol, chyhoeddi eich cynnwys ar y wefan hon ac mewn perthynas â hi. 11.3 Rydych yn rhoi i ni’r hawl i is-drwyddedu’r hawliau a drwyddedir dan Adran 11.2. 11.4 Rydych yn rhoi i ni’r hawl i ddwyn achos am dorri’r hawliau a drwyddedir dan Adran 11.2. 11.5 Rydych trwy hyn yn ildio eich holl hawliau moesol ar eich cynnwys hyd yr eithaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol; ac rydych yn gwarantu ac yn datgan bod yr holl hawliau moesol eraill yn eich cynnwys wedi’u hildio hyd yr eithaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol. 11.6 Cewch olygu eich cynnwys i’r graddau a ganiateir gan ddefnyddio’r teclynnau golygu sydd ar gael ar ein gwefan. 11.7 Heb effeithio ar ein hawliau eraill o dan y telerau ac amodau hyn, os torrwch unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw fodd, neu os ydym yn amau’n rhesymol eich bod wedi torri’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw fodd, gallwn ddileu, dad-gyhoeddi neu olygu unrhyw ran o’ch cynnwys neu’r cwbl.

12. Eich cynnwys: rheolau

12.1 Rydych yn gwarantu ac yn datgan y bydd eich cynnwys yn cydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn. 12.2 Rhaid i’ch cynnwys beidio â bod yn anghyfreithlon, rhaid iddo beidio â thresmasu ar hawliau cyfreithiol neb, a rhaid iddo beidio â gallu peri achos cyfreithiol yn erbyn neb (ym mhob achos mewn unrhyw awdurdodaeth a dan unrhyw ddeddf berthnasol). 12.3 Rhaid i’ch cynnwys, a’r defnydd o’ch cynnwys gennym ni yn unol â’r telerau ac amodau hyn, beidio â: (a) bod yn enllibus nac yn faleisus o gamarweiniol; (b) bod yn anllad nac yn anweddus; (c) tresmasu ar unrhyw hawlfraint, hawl moesol, hawl cronfa ddata, hawl nod masnach, hawl dylunio, hawl o ran peri coel, nac unrhyw hawl eiddo deallusol arall; (d) tresmasu ar unrhyw hawl cyfrinachedd, hawl preifatrwydd na hawl dan ddeddfwriaeth diogelu data; (e) bod yn gyfwerth â chyngor esgeulus na chynnwys unrhyw ddatganiad esgeulus; (f) bod yn gyfwerth ag ysgogi cyflawni trosedd, cyfarwyddiadau cyflawni trosedd na hyrwyddo gweithgaredd troseddol; (g) dirmygu unrhyw lys na thorri unrhyw orchymyn llys; (h) torri deddfwriaeth casineb hiliol neu grefyddol na deddfwriaeth wahaniaethu; (i) bod yn gableddus; (j) torri deddfwriaeth cyfrinachau swyddogol; (k) torri unrhyw rwymedigaeth gytundebol ddyledus i neb; (l) cyfleu trais mewn dull diamwys, graffig na ddi-alw-amdano; (m) bod yn bornograffig, yn anweddus, yn awgrymog nac yn rhywiol eglur; (n) bod yn anwir, yn ffug, yn anghywir nac yn gamarweiniol; (o) cynnwys unrhyw gyfarwyddiadau, cyngor na gwybodaeth arall y gellid gweithredu ar ei sail ac a allai, pe gweithredid ar ei sail, beri gwaeledd, niwed neu farwolaeth, neu unrhyw golled neu ddifrod arall; (p) bod yn sbam; (q) bod yn dramgwyddus, yn dwyllodrus, yn fygythiol, yn ddifrïol, yn aflonyddol, yn wrthgymdeithasol, yn atgas, yn wahaniaethol; na (r) tharfu ar neb, na pheri trafferth na phryder diangen i neb. 12.4 Rhaid i’ch cynnwys fod yn briodol, yn gwrtais ac yn chwaethus, a chyd-fynd â’r safonau moesgarwch ac ymddygiad sy’n dderbyniol yn gyffredinol ar y rhyngrwyd. 12.5 Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan i gysylltu ag unrhyw wefan neu dudalen we sy’n cynnwys deunydd a fyddai, pe câi ei bostio ar ein gwefan, yn torri darpariaethau’r telerau ac amodau hyn. 12.6 Rhaid i chi beidio â chyflwyno i’n gwefan unrhyw ddeunydd sydd neu a fu erioed yn destun unrhyw achos cyfreithiol posib neu wirioneddol neu gŵyn arall o’r fath.

13. Adrodd ar gamddefnydd

13.1 Os dewch i wybod am unrhyw ddeunydd neu weithgaredd anghyfreithlon ar ein gwefan, neu unrhyw ddeunydd neu weithgaredd sy’n torri’r telerau ac amodau hyn, rhowch wybod i ni. 13.2 Gallwch roi gwybod i ni am unrhyw ddeunydd neu weithgaredd o’r fath drwy anfon e-bost at plwg@plwg.cymru.

14. Warantïau cyfyngedig

14.1 Nid ydym yn gwarantu nac yn datgan: (a) cyflawnder na chywirdeb y wybodaeth a gyhoeddir ar ein gwefan; (b) bod y deunydd ar y wefan yn gyfredol; (c) y bydd y wefan nac unrhyw wasanaeth ar y wefan yn dal i fod ar gael. 14.2 Cadwn yr hawl i derfynu neu newid unrhyw un o wasanaethau’n gwefan neu’r cwbl, ac i roi’r gorau i gyhoeddi ar ein gwefan, ar unrhyw adeg fel y gwelwn yn briodol drwy ein disgresiwn ein hunain heb rybudd nac eglurhad; ac ar wahân i’r graddau a ddatgenir yn ffurfiol fel arall yn y telerau ac amodau hyn, ni fydd gennych hawl ar unrhyw iawn-dal na thaliad arall pan derfynir neu newidir unrhyw wasanaethau gwefan, neu os rhoddwn y gorau i gyhoeddi’r wefan. 14.3 I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol ac yn unol ag Adran 15.1, rydym yn eithrio unrhyw ddatganiadau ac warantïau sy’n ymwneud â chynnwys y telerau ac amodau hyn, ein gwefan a defnydd o’n gwefan.

15. Cyfyngiadau ac eithriadau atebolrwydd

15.1 Ni fydd dim yn y telerau ac amodau hyn: (a) yn cyfyngu ar nac yn eithrio unrhyw atebolrwydd dros farwolaeth neu niwed personol oherwydd esgeulustod; (b) yn cyfyngu ar nac yn eithrio unrhyw atebolrwydd dros dwyll neu gam-gyfleu twyllodrus; (c) yn cyfyngu ar unrhyw atebolrwydd mewn modd na chaniateir dan y gyfraith berthnasol; nac (d) yn eithrio unrhyw atebolrwydd na cheir ei eithrio dan y gyfraith berthnasol. 15.2 Mae’r cyfyngiadau a’r eithriadau atebolrwydd a ddatgenir yn yr Adran 15 hon ac mewn mannau eraill yn y telerau ac amodau hyn: (a) yn destun Adran 15.1; ac (b) maent yn rheoli pob atebolrwydd sy’n deillio dan y telerau ac amodau hyn neu sy’n ymwneud â chynnwys y telerau ac amodau hyn, gan gynnwys atebolrwydd sy’n deillio mewn cytundeb, mewn camwedd (gan gynnwys esgeulustod) ac oherwydd torri dyletswydd statudol, ac eithrio i’r graddau a ddatgenir yn ffurfiol fel arall yn y telerau ac amodau hyn. 15.3 I’r graddau y mae ein gwefan a’r wybodaeth a’r gwasanaethau ar ein gwefan yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim, ni fyddwn yn atebol dros golled na difrod o unrhyw fath. 15.4 Ni fyddwn yn atebol i chi o ran unrhyw golledion yn deillio o unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol. 15.5 Ni fyddwn yn atebol i chi o ran unrhyw golledion busnes, gan gynnwys (ymhlith eraill) colli neu niweidio elw, incwm, refeniw, defnydd, cynhyrchu, cynilion disgwyliedig, busnes, cytundebau, cyfleoedd masnachol nac ewyllys da. 15.6 Ni fyddwn yn atebol i chi o ran unrhyw golled neu lygredd data, cronfa ddata na meddalwedd. 15.7 Ni fyddwn yn atebol i chi o ran unrhyw golled neu niwed arbennig, anuniongyrchol na chanlyniadol. 15.8 Rydych yn derbyn ei bod i o fudd i ni gyfyngu ar atebolrwydd personol ein swyddogion a’n gweithwyr ac, o ran y budd hwnnw, rydych yn cydnabod ein bod yn endid atebolrwydd cyfyngedig; rydych yn cydsynio na fyddwch yn cyflwyno unrhyw hawliad yn bersonol yn erbyn ein swyddogion na’n gweithwyr o ran unrhyw golledion a gewch chi mewn cysylltiad â’r wefan neu’r telerau ac amodau hyn (ni fydd hyn, wrth reswm, yn cyfyngu ar nac yn eithrio atebolrwydd yr endid atebolrwydd cyfyngedig ei hun dros weithredoedd ac esgeulustod ein swyddogion a’n gweithwyr).

16. Indemniad

16.1 Rydych drwy hyn yn ein hindemnio, ac yn ymrwymo i’n cadw ni wedi’n hindemnio, rhag unrhyw neu bob colled, iawndal, cost, atebolrwydd a threuliau (gan gynnwys, ymhlith eraill, costau cyfreithiol ac unrhyw symiau a delir gennym ni i drydydd parti i setlo hawliad neu anghydfod) a gawn neu a ddioddefwn ni ac sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o [eich defnydd chi o’n gwefan neu unrhyw dorri ar eich rhan chi unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau ac amodau hyn].

17. Torri’r telerau ac amodau hyn

17.1 Heb ragfarnu ein hawliau eraill dan y telerau ac amodau hyn, os torrwch y telerau ac amodau hyn mewn unrhyw fodd, neu os ydym yn amau’n rhesymol eich bod wedi torri’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw fodd, gallwn: (a) anfon un rhybudd ffurfiol neu ragor atoch; (b) atal eich mynediad at ein gwefan dros dro; (c) eich gwahardd yn barhaol rhag cael mynediad at ein gwefan; (d) rhwystro cyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP rhag cael mynediad at ein gwefan; (e) cysylltu ag unrhyw un o’ch darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd, neu’r cwbl, a gofyn iddynt eich rhwystro rhag cael mynediad at ein gwefan; (f) cychwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn, pa un ai oherwydd torri cytundeb neu fel arall; a/neu (g) atal neu ddileu eich cyfrif ar ein gwefan. 17.2 Lle byddwn yn atal neu yn gwahardd neu’n atal eich mynediad at ein gwefan neu ran o’n gwefan, rhaid i chi beidio â gweithredu mewn unrhyw fodd i osgoi ataliad neu waharddiad o’r fath (gan gynnwys, ymhlith eraill, creu a/neu ddefnyddio cyfrif arall).

18. Gwefannau trydydd parti

18.1 Mae ein gwefan yn cynnwys hyperddolennau at wefannau eraill sy’n eiddo ac a redir gan drydydd partïon; nid yw hyperddolennau o’r fath yn argymhellion. 18.2 Nid oes gennym reolaeth dros wefannau trydydd parti na’u cynnwys, ac yn amodol ar Adran 15.1 nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu niwed a allai ddeillio o’ch defnydd chi ohonynt.

19. Nodau masnach

19.1 Mae Nod Masnach Actifyddion Artistig, ein logos a’n nodau masnach cofrestredig ac anghofrestredig eraill yn nodau masnach sy’n perthyn i ni; ni roddwn ganiatâd o gwbl i ddefnyddio’r nodau masnach hyn a gallai defnydd o’r fath olygu tresmasu ar ein hawliau. 19.2 Mae’r nodau masnach neu’r nodau gwasanaeth cofrestredig ac anghofrestredig trydydd parti ar ein gwefan yn eiddo eu priod berchnogion ac, oni ddywedir fel arall yn y telerau ac amodau hyn, nid ydym yn cymeradwyo nac yn gysylltiedig ag unrhyw ddeiliaid unrhyw hawliau o’r fath, a chan hynny, ni allwn roi unrhyw drwydded i arfer hawliau o’r fath.

20. Cystadlaethau

20.1 O bryd i’w gilydd mae’n bosib y byddwn yn cynnal cystadlaethau, loteris gwobrau am ddim a/neu hyrwyddiadau eraill ar ein gwefan. 20.2 Bydd cystadlaethau’n unol â thelerau ac amodau ar wahân (yr byddwn yn eu rhoi ar gael i chi fel y bo’n addas).

21. Amrywio

21.1 Gallem ddiwygio’r telerau ac amodau hyn o bryd i’w gilydd. 21.2 Bydd y telerau ac amodau diwygiedig yn berthnasol i’r defnydd o’n gwefan o ddyddiad cyhoeddi’r telerau ac amodau diwygiedig ar y wefan, ac rydych drwy hynny yn ildio unrhyw hawl a allai fod gennych fel arall i gael eich hysbysu am ddiwygiadau’r telerau ac amodau hyn, neu i gydsynio â hwy. 21.3 Os ydych wedi rhoi eich cydsyniad ffurfiol i’r telerau ac amodau hyn, gofynnwn am eich cydsyniad ffurfiol ag unrhyw ddiwygiad i’r telerau ac amodau hyn; ac os na roddwch eich cydsyniad ffurfiol â’r telerau ac amodau diwygiedig o fewn y cyfnod a bennwn ni, byddwn yn analluogi neu’n dileu eich cyfrif ar y wefan, a rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan.

22. Aseinio

22.1 Rydych drwy hyn yn cydsynio y gallwn ni aseinio, trosglwyddo, is-gontractio neu ddelio fel arall â’n hawliau a/neu rwymedigaethau dan y telerau ac amodau hyn. 22.2 Ni chewch, heb ein cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw, aseinio, trosglwyddo, is-gontractio na delio fel arall ag unrhyw un o’n hawliau a/neu rwymedigaethau dan y telerau ac amodau hyn.

23. Difrifoldeb

23.1 Os pennir gan unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall fod un o ddarpariaethau’r telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon a/neu’n amhosib ei gorfodi, bydd y darpariaethau eraill yn dal i fod ar waith. 23.2 Petai unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu amhosib ei gorfodi o blith y telerau ac amodau hyn, o ddileu rhan ohoni, yn dod yn gyfreithlon neu’n orfodadwy, ystyrid bod y rhan honno wedi’i dileu, a bydd gweddill y darpariaethau yn dal i fod ar waith.

24. Hawliau trydydd parti

24.1 Er ein budd ni ac er eich budd chi y mae cytundeb dan y telerau ac amodau hyn, ac ni fwriedir iddo fod er budd unrhyw drydydd parti na bod yn orfodadwy ganddo. 24.2 Nid yw arfer hawliau’r partïon dan gytundeb dan y telerau ac amodau hyn yn amodol ar gydsyniad unrhyw drydydd parti.

25. Cytundeb cyfan

25.1 Yn unol ag Adran 15.1, y telerau ac amodau hyn, ynghyd â’n polisi preifatrwydd a’n polisi cwcis, fydd y cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan, a bydd yn disodli pob cytundeb blaenorol rhyngoch chi a ni o ran eich defnydd chi o’n gwefan.

26. Y gyfraith ac awdurdodaeth

26.1 Rheolir y telerau ac amodau hyn gan gyfraith Lloegr ac fe’u dehonglir yn unol â chyfraith Lloegr. 26.2 Bydd unrhyw ddadleuon mewn perthynas â’r telerau ac amodau hyn yn amodol ar awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

27. Dadleniadau statudol a rheoliadol

27.1 Nid ydym wedi’n cofrestru mewn unrhyw gofrestr fasnach, yn atebol i unrhyw gynllun awdurdodi, wedi’n cofrestru gydag unrhyw gorff proffesiynol yn y Deyrnas Unedig nac wedi’n tanysgrifio i unrhyw god ymddygiad.

Polisi preifatrwydd a chwcis

28. Cyflwyniad

28.1 Rydym yn ymroddedig i ddiogelu preifatrwydd ymwelwyr â’n gwefan; yn y polisi hwn rydym yn egluro sut y byddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol. 28.2 Drwy ddefnyddio ein gwefan a chydsynio â’r polisi hwn, rydych yn cydsynio â’n defnydd o gwcis yn unol ag amodau’r polisi hwn.

29. Casglu gwybodaeth bersonol

29.1 Gallwn gasglu, storio a defnyddio’r mathau o wybodaeth bersonol sy’n dilyn: (a) gwybodaeth am eich cyfrifiadur ac am eich ymweliadau â’r wefan hon a’ch defnydd ohoni (gan gynnwys eich cyfeiriad IP, eich lleoliad daearyddol, math a fersiwn eich porwr, eich system weithredu, eich ffynhonnell gyfeirio, hyd eich ymweliad, ymweliadau tudalennau a llwybrau llywio gwefan); (b) gwybodaeth rydych yn ei rhoi i ni pan gofrestrwch â’n gwefan (gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost); (c) gwybodaeth rydych yn ei rhoi i ni pan fyddwch yn llenwi eich proffil ar ein gwefan (gan gynnwys eich enw, lluniau proffil, rhyw, dyddiad geni, sefyllfa berthynas, diddordebau a hobïau, sgiliau arbenigol, manylion addysgol); (d) gwybodaeth rydych yn ei rhoi i ni pan fyddwch yn llenwi eich rôl neu rolau ar ein gwefan (gan gynnwys eich math o rôl, teitl, disgrifiad, manylion sefydliad a gwaith); (e) gwybodaeth rydych yn ei rhoi i ni pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaethau ar ein gwefan, neu a gynhyrchir yn ystod defnyddio’r gwasanaethau hynny (gan gynnwys amseru, amlder a phatrwm defnyddio’r gwasanaethau); (f) gwybodaeth rydych yn ei phostio i’n gwefan i’w chyhoeddi ar y rhyngrwyd (gan gynnwys eich enw defnyddiwr, eich lluniau proffil a chynnwys eich negeseuon); (g) gwybodaeth sydd mewn, neu’n ymwneud ag, unrhyw neges a anfonwch atom neu a anfonwch drwy ein gwefan (gan gynnwys cynnwys y neges a metadata cysylltiedig â’r neges); (h) gwybodaeth a roddwch i ni at ddiben tanysgrifio i’n hysbysiadau e-bost a/neu gylchlythyron (gan gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad e-bost); ac (i) unrhyw wybodaeth bersonol rydych yn dewis ei hanfon atom. 29.2 Cyn i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol rhywun arall i ni, rhaid i chi gael caniatâd y person hwnnw i ddatgelu ac i brosesu’r wybodaeth bersonol honno yn unol â’r polisi hwn.

30. Defnyddio gwybodaeth bersonol

30.1 Defnyddir gwybodaeth bersonol a gyflwynir i ni drwy ein gwefan at y dibenion a bennir yn y polisi hwn neu ar dudalennau perthnasol y wefan. 30.2 Gallem ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol: (a) i weinyddu ein gwefan a’n busnes; (b) i bersonoli ein gwefan i chi; (c) i’ch galluogi i ddefnyddio’r gwasanaethau Cyfleoedd sydd ar gael ar ein gwefan; (d) i anfon negeseuon masnachol atoch nad ydynt yn ymwneud â marchnata; (e) i anfon hysbysiadau e-bost rydych wedi gofyn amdanynt yn benodol atoch; (f) i anfon negeseuon marchnata yn ymwneud â’n busnes atoch rydym yn meddwl y gallent fod o ddiddordeb i chi, drwy’r post neu, lle’r ydych wedi cydsynio’n benodol â hyn, drwy e-bost neu dechnoleg o’r fath (gallwch roi gwybod i ni ar unrhyw adeg os nad ydych am gael negeseuon marchnata bellach); (g) i roi gwybodaeth ystadegol am ein defnyddwyr i drydydd partïon (ond ni fydd y trydydd partïon hynny’n gallu adnabod unrhyw ddefnyddiwr unigol o’r wybodaeth honno); (h) i ymdrin ag ymholiadau a chwynion a wneir gennych chi neu amdanoch chi mewn perthynas â’n gwefan; (i) i gadw ein gwefan yn ddiogel a rhwystro twyll; a (j) i wirio cydymffurfiaeth â’r telerau ac amodau sy’n rheoli defnydd o’n gwefan. 30.3 Os cyflwynwch wybodaeth bersonol i’w chyhoeddi ar ein gwefan, byddwn yn cyhoeddi ac yn defnyddio’r wybodaeth honno yn unol â’r drwydded rydych yn ei rhoi i ni.. 30.4 Gellir defnyddio eich gosodiadau preifatrwydd i gyfyngu ar eich gwybodaeth a gyhoeddir ar ein gwefan, a gellir eu haddasu gan ddefnyddio’r dewisiadau preifatrwydd ar y wefan. 30.5 Ni fyddwn, heb eich cydsyniad ffurfiol, yn darparu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti at ddiben eu marchnata uniongyrchol na marchnata uniongyrchol unrhyw drydydd parti arall.

31. Datgelu gwybodaeth bersonol

31.1 Gallwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un o’n gweithwyr, ein swyddogion, ein hyswirwyr, ein cynghorwyr proffesiynol, ein hasiantau, ein cyflenwyr neu’n hisgontractwyr hyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion a ddatgenir yn y polisi hwn. 31.2 Gallwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw aelod o’n grŵp o gwmnïau (mae hyn yn golygu ein his-gwmnïau, ein cwmni dal sylfaenol a’i holl is-gwmnïau) hyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion a ddatgenir yn y polisi hwn. 31.3 Gallwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol: (a) i’r graddau ag y mae’n ofynnol arnom yn ôl y gyfraith; (b) mewn cysylltiad ag unrhyw achosion cyfreithiol sydd ar fynd neu yn yr arfaeth; (c) er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol (gan gynnwys darparu gwybodaeth i eraill at ddibenion rhwystro twyll a lleihau risg credyd); (d) i brynwr (neu ddarpar brynwr) unrhyw fusnes neu ased rydym yn ei werthu (neu’n ystyried ei werthu); ac (e) i unrhyw un rydym yn credu’n rhesymol y gallai wneud cais i lys neu awdurdod cymwys arall am ddatgelu’r wybodaeth bersonol honno lle, yn ein tyb rhesymol ni, y byddai llys neu awdurdod cymwys o’r fath yn rhesymol debygol o orchymyn datgelu’r wybodaeth bersonol honno. 31.4 Ac eithrio fel y datgenir yn y polisi hwn, ni ddarparwn eich gwybodaeth bersonol ar gyfer trydydd partïon.

32. Trosglwyddiadau data rhyngwladol

32.1 Gellir storio a phrosesu gwybodaeth a gasglwn yn unrhyw un o’r gwledydd lle’r ydym yn gweithredu a’i throsglwyddo rhyngddynt er mwyn rhoi lle i ni ddefnyddio’r wybodaeth yn unol â’r polisi hwn. 32.2 Gellir trosglwyddo’r wybodaeth a gasglwn i’r gwledydd canlynol sydd heb ddeddfau amddiffyn data cyfwerth â’r rheini sydd mewn grym yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd: Unol Daleithiau America, Rwsia, Japan, Tsieina ac India. 32.3 Gallai’r wybodaeth bersonol rydych yn ei chyhoeddi ar ein gwefan neu yn ei chyflwyno i’w chyhoeddi ar ein gwefan fod ar gael, drwy’r rhyngrwyd, ledled y byd. Ni allwn rwystro eraill rhag defnyddio na chamddefnyddio gwybodaeth o’r fath. 32.4 Rydych yn cydsynio’n ffurfiol â throsglwyddiadau gwybodaeth bersonol a ddisgrifir yn Adran 5.

33. Cadw gwybodaeth bersonol

33.1 Mae’r Adran 6 hon yn datgan ein polisïau a’n dull gweithredu cadw data, sydd wedi’u llunio’n gymorth i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol o ran cadw a dileu gwybodaeth bersonol. 33.2 Ni chedwir gwybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu at unrhyw ddiben neu ddibenion yn hirach nag sy’n angenrheidiol at y diben hwnnw neu’r dibenion hynny. 33.3 Heb ragfarnu Adran 6.2, byddwn fel arfer yn dileu data personol sydd yn y categorïau isod ar y dyddiad/amser isod: (a) Dilëir gwybodaeth proffil personol a rôl o gyfrifon sydd wedi’u dileu bob chwe mis. 33.4 Er gwaethaf darpariaethau eraill yr Adran 6 hon, byddwn yn cadw dogfennau (gan gynnwys dogfennau electronig) sy’n cynnwys data personol: (a) i’r graddau ag y mae’n ofynnol arnom yn ôl y gyfraith; (b) os credwn y gallai’r dogfennau fod yn berthnasol i unrhyw achos cyfreithiol sydd ar fynd neu yn yr arfaeth; ac (c) er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol (gan gynnwys darparu gwybodaeth i eraill at ddibenion rhwystro twyll a lleihau risg credyd).

34. Diogelwch gwybodaeth bersonol

34.1 Byddwn yn cymryd camau rhagofalus rhesymol technegol a chyfundrefnol rhag colli, camddefnyddio na newid eich gwybodaeth bersonol. 34.2 Byddwn yn storio’r holl wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu i ni ar ein gweinyddion (a ddiogelir gan gyfrinair a mur cadarn). 34.3 Rydych yn cydnabod bod trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn hanfodol anniogel, ac ni allwn warantu diogelwch data a anfonir dros y rhyngrwyd. 34.4 Rydych yn gyfrifol am gadw’r cyfrinair a ddefnyddiwch i fynd ar ein gwefan yn gyfrinachol; ni fyddwn yn gofyn i chi am eich cyfrinair (ac eithrio pan fyddwch yn mewngofnodi i’n gwefan).

35. Diwygiadau

35.1 Gallem ddiweddaru’r polisi hwn o bryd i’w gilydd drwy gyhoeddi fersiwn newydd ar ein gwefan. 35.2 Dylech fwrw golwg ar y dudalen hon bob yn hyn a hyn i sicrhau eich bod yn fodlon ar unrhyw newidiadau yn y polisi hwn. 35.3 Gallem eich hysbysu am newidiadau yn y polisi hwn drwy e-bost.

36. Eich hawliau

36.1 Gallwch ein cyfarwyddo i ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi rydym yn ei dal i chi; bydd darparu gwybodaeth o’r fath yn amodol ar: (a) dalu ffi (ar hyn o bryd yn ffi sefydlog o GBP 10); a (b) rhoi tystiolaeth briodol pwy ydych (at y diben hwn, byddwn fel arfer yn derbyn llungopi o’ch pasport ardystiedig gan gyfreithiwr neu fanc a chopi o fil gwasanaeth yn dangos eich cyfeiriad cyfredol). 36.2 Gallem atal gwybodaeth bersonol rydych yn gofyn amdani i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith. 36.3 Gallwch ein cyfarwyddo ar unrhyw adeg i beidio â phrosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata. 36.4 Yn ymarferol, byddwch naill ai’n cydsynio’n ffurfiol ymlaen llaw i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata, neu byddwn yn rhoi cyfle i chi dynnu’n ôl o’r defnydd o’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata.

37. Gwefannau trydydd parti

37.1 Mae ein gwefan yn cynnwys hyperddolennau at wefannau trydydd parti, a manylion yn eu cylch. 37.2 Nid oes gennym reolaeth dros bolisïau ac arferion preifatrwydd trydydd partïon, ac nid ydym yn gyfrifol amdanynt.

38. Diweddaru gwybodaeth

38.1 Cofiwch roi gwybod i ni os oes angen cywiro neu ddiweddaru’r wybodaeth bersonol amdanoch rydym yn ei dal.

39. Ynglŷn â chwcis

39.1 Ffeil yw cwci, sy’n cynnwys dynodwr (cyfres o lythrennau a rhifau) a anfonir gan weinydd gwe at borwr gwe ac y mae’r porwr yn ei storio. Wedyn caiff y dynodwr ei anfon yn ôl at y gweinydd bob tro bydd y porwr yn gofyn am dudalen gan y gweinydd. 39.2 Gall cwcis un ai fod yn gwcis “parhaus” neu’n gwcis “sesiwn”: storir cwci parhaus gan borwr gwe a bydd yn dal i fod yn ddilys tan ei ddyddiad terfyn penodol, oni bai bod y defnyddiwr yn ei ddileu cyn y dyddiad terfyn; bydd cwci sesiwn, ar y llaw arall, yn dod i ben ar ddiwedd sesiwn y defnyddiwr, pan gaiff y porwr gwe ei gau. 39.3 Fel arfer, nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n adnabod defnyddiwr yn bersonol, ond gallai gwybodaeth bersonol amdanoch rydym yn ei storio fod yn gysylltiedig â’r wybodaeth a gaiff ei storio mewn cwcis ac a ddaw ohonynt. 39.4 Gall gweinydd gwe ddefnyddio cwcis i adnabod a thracio defnyddwyr fel y maent yn llywio gwahanol dudalennau ar wefan ac i adnabod defnyddwyr sy’n dychwelyd i wefan.

40. Ein cwcis

40.1 Cwcis parhaus a Storio Lleol HTML5 yn unig rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan. 40.2 Isod, nodir enwau’r cwcis rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan, ac at ba ddibenion rydym yn eu defnyddio: (a) rydym yn defnyddio briwsion parhaus i alluogi defnyddwyr i wneud sylwadau ar eitemau blog. (b) rydym yn defnyddio Storio Lleol HTML5 i bersonoli’r wefan ar gyfer pob defnyddiwr.

41. Cwcis dadansoddeg

41.1 Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddadansoddi defnydd o’n gwefan. 41.2 Mae ein darparwr gwasanaeth dadansoddi’n cynhyrchu gwybodaeth ystadegol a gwybodaeth arall am ddefnydd o’r wefan drwy gyfrwng cwcis. 41.3 Mae gan y cwcis dadansoddi a ddefnyddir gan ein gwefan yr enwau canlynol: _ga, _gat, __utma, __utmt, __utmb, __utmc, __utmz and __utmv. 41.4 Defnyddir y wybodaeth a gynhyrchir sy’n ymwneud â’n gwefan i greu adroddiadau am y defnydd o’n gwefan. 41.5 Mae polisi preifatrwydd ein darparwr gwasanaeth dadansoddi i’w gael yn: [http://www.google.com/policies/privacy/].

42. Atal cwcis

42.1 Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn gadael i chi wrthod derbyn cwcis; er enghraifft: (a) yn Internet Explorer (fersiwn 11) gallwch atal cwcis drwy ddefnyddio’r gosodiadau diystyru trafod cwcis sydd ar gael o glicio “Tools”, “Internet Options”, “Privacy” ac wedyn “Advanced”; (b) yn Firefox (fersiwn 47) gallwch atal cwcis drwy glicio “Tools”, “Options”, “Privacy”, dewis “Use custom settings for history” o’r gwymplen a dad-dicio “Accept cookies from sites”; ac (c) yn Chrome (fersiwn 52), gallwch atal yr holl gwcis drwy fynd at y ddewislen “Customise and control”, a chlicio “Settings”, “Show advanced settings” a “Content settings”, ac yna dewis “Block sites from setting any data” dan y pennawd “Cookies”. 42.2 Bydd atal pob cwci yn effeithio’n negyddol ar ddefnyddioldeb llawer o wefannau. 42.3 Os byddwch chi’n atal cwcis, ni fyddwch yn gallu defnyddio’r holl nodweddion ar ein gwefan.

43. Dileu cwcis

43.1 Gallwch ddileu cwcis sydd eisoes wedi’u storio ar eich cyfrifiadur, er enghraifft: (a) yn Internet Explorer (fersiwn 11), rhaid i chi ddileu ffeiliau cwcis eich hun (cewch gyfarwyddiadau i wneud hynny yn http://windows.microsoft.com/en-gb/internet-explorer/delete-manage-cookies#ie=ie-11); (b) yn Firefox (fersiwn 47) gallwch ddileu cwcis drwy glicio “Tools”, “Options” a “Privacy”, wedyn dewis “Use custom settings for history” o’r gwymplen, clicio “Accept cookies from sites”; ac wedyn clicio ”Remove All Cookies”; ac (c) yn Chrome (fersiwn 52), gallwch ddileu pob cwci drwy fynd at y ddewislen “Customise and control”, a chlicio “Settings”, “Show advanced settings” a “Clear browsing data”, ac yna dewis “Cookies and other site and plug-in data” cyn clicio “Clear browsing data”. 43.2 Bydd atal cwcis yn effeithio’n negyddol ar ddefnyddioldeb llawer o wefannau.

44. Cofrestru diogelu data

44.1 Rydym wedi cofrestru fel rheolwr data gyda Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y Deyrnas Unedig. 44.2 Ein rhif cofrestru diogelu data yw ZA159647.

45. Ein manylion

45.1 Mae’r wefan hon yn eiddo i Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig, sy’n ei rhedeg. 45.2 Rydym yn elusen ac yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr dan y rhif cofrestru elusen 702973 a’r rhif cofrestru cwmni 02454546 ac mae ein swyddfa gofrestredig yn Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1AH..45.3 Mae ein prif leoliad busnes yn Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1AH. 45.4 Gallwch gysylltu â ni: (a) drwy’r post, gan ddefnyddio’r cyfeiriad post uchod; (b) drwy ddefnyddio’r ffurflen gysylltu ar ein gwefan; (d) drwy e-bost gan ddefnyddio plwg@plwg.cymru

Creu Cyfle

Dewch o hyd i’ch partner perffaith. Creu Cyfle ar Plwg