plwg-logo

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r hysbysiad yma’n berthnasol i’r defnydd o wybodaeth bersonol ar plwg.cymru

Mae’r Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig yn ymroddedig i ddiogelu eich eich gwybodaeth bersonol ac mae’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data gyfredol gan gynnwys GDPR. Ni fyddwn yn gwerthu, yn dosbarthu nac yn prydlesu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti oni bai bod gennym eich caniatâd neu bod gofyn yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny. Darllen rhagor am delerau ac amodau Plwg.

Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau rydych am i ni eu hateb.

Trosolwg o’r Hysbysiad yma

  • Pwy sy’n casglu eich gwybodaeth
  • Y wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu
  • Beth rydyn ni’n ei wneud â’r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu, a pham
  • Diogelwch
  • Sut rydyn ni’n defnyddio cwcis
  • Am ba hyd rydyn ni’n cadw eich gwybodaeth
  • Rheoli eich gwybodaeth bersonol

Pwy sy’n casglu eich gwybodaeth

Mae’r Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig yn casglu data personol am eich defnydd o Plwg ac yn rheoli eich tanysgrifiad i gylchlythyr rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg Canol y De. Bryony Harris sy’n gyfrifol am hyn.

Ar gyfer tanysgrifiadau i gylchlythyr Celfyddydau ac Addysg Gorllewin Cymru, mae Nawr yn casglu data personol er mwyn ei galluogi i anfon cylchlythyron. NAWR yw Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg Canolbarth a Gorllewin Cymru, a gaiff ei rhedeg gan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gweithio mewn partneriaeth ag ERW. Paul Osborne ar ran y Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n gyfrifol am hyn.

Ar gyfer tanysgrifiadau i gylchlythyr Celfyddydau ac Addysg De-ddwyrain Cymru, mae Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg: De-ddwyrain Cymru yn casglu data personol er mwyn ei galluogi i anfon cylchlythyron. Cyllidir Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg: De-ddwyrain Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac mae’n gweithio yn rhanbarth Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casenwydd a Thorfaen. Joanna Jones, ar ran Cyngor Caerffili, sy’n gyfrifol am hyn.

Ar gyfer tanysgrifiadau i gylchlythyr Celfyddydau ac Addysg Gogledd Cymru, EDAU sy’n casglu data personol. EDAU yw Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg Gogledd Cymru. Mae’n bartneriaeth rhwng holl awdurdodau lleol Gogledd Cymru, Consortiwm Addysgol Rhanbarthol GwE, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Gwenno Eleri Jones sy’n gyfrifol am hyn.

Y wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu

Rydyn ni’n casglu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw llawn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Ym mha rôl ydych chi’n defnyddio plwg.cymru
  • Enw’r sefydliad rydych yn y rôl hon ar ei ran
  • Cyfeiriad gwe unrhyw sefydliad rydych chi’n defnyddio’r ap ar ei gyfer
  • Eich taith drwy gynnwys y wefan
  • Gwybodaeth arall rydych yn ei rhoi sy’n berthnasol i unrhyw gais am gymorth ar y wefan
  • A ydych yn Athro ai peidio
  • Eich dewis iaith gyfathrebu
  • Eich maes diddordeb
    • Celfyddydau Gweledol
    • Cerddoriaeth
    • Theatr
    • Llenyddol
    • Cyfryngau Digidol a Ffilm
    • Dawns

Beth ydyn ni’n ei wneud gyda’r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu, a pham?

Mae angen y wybodaeth yma arnon ni er mwyn rhoi mynediad i chi at gynnwys plwg.cymru, i gwrdd â’ch gofynion chi, i wella ein gwasanaeth, i gyflawni ein hymrwymiadau gwasanaeth i chi, ac am y rhesymau canlynol yn benodol:

  • I ddarparu cyfrif Plwg i chi, a mynediad at gynnwys a gweithrediadau’r wefan
  • Gallem ddefnyddio’r wybodaeth yma i wella ein cynnyrch neu ein gwasanaethau
  • I reoli cyfathrebu e-bost â chi drwy ein cylchlythyron
  • Efallai y bydd angen i aelod o’n tîm gysylltu â chi i ateb cais am gymorth os gofynnwch amdano.

Rydym yn rhannu eich data oddi mewn i Plwg ac fe allem ei rannu â chyrff cyhoeddus, cyflenwyr a phartneriaid. Ymhlith y cyrff y gallem rannu data â nhw mae rhaglenni a gwybodaeth sy’n ein cynorthwyo i ni gynnal a datblygu ein gwefannau.

Diogelwch

Rydyn ni’n ymroddedig i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn rhwystro mynediad neu ddatguddio heb awdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol addas ar waith i ddiogelu a sicrhau’r wybodaeth rydym yn ei chasglu.

Sut rydyn ni’n defnyddio cwcis

Ffeil fach yw cwci sy’n gofyn caniatâd i gael ei roi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith rydych chi’n cydsynio, caiff y ffeil ei hychwanegu ac mae’r cwci yn helpu i ddadansoddi traffig gwe neu i wybod pan ewch chi i dudalen benodol ar ein gwefan. Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i gynnig gwefan well i chi drwy roi lle i ni fonitro pa dudalennau sy’n ddefnyddioli chi ai peidio. Nid yw cwci yn rhoi mynediad i ni at eich cyfrifiadur chi nac at unrhyw wybodaeth amdanoch chi, ar wahân i’r data rydych yn dewis ei rannu â ni.

Cymerwch gip ar ein polisi cwcis i gael rhagor o wybodaeth.

Am ba hyd rydyn ni’n cadw eich gwybodaeth

Byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol tan i chi naill ai ddileu eich cyfrif ar plwg.cymru neu ddad-danysgrifio o’n cylchlythyron neu ofyn am i’ch gwybodaeth gael ei dileu oddi ar restrau post ein llythyrau newyddion.

Rheoli eich gwybodaeth bersonol

A chithau’n gwsmer i ni, mae o fudd i ni ddiogelu eich hawliau, felly hoffem i chi ddeall yn glir beth sy’n digwydd i’ch data personol unwaith y byddwn wedi’i gasglu. Mae’r rhestr ganlynol yn egluro eich hawliau fel unigolyn o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd:

  • Mae gennych hawl i gael eich hysbysu o’r hyn rydyn ni’n ei wneud wnawn ni â’ch data ac i wybod beth yw diben casglu a phrosesu.
  • Mae gennych hawl i fynediad at eich data personol a gwybodaeth atodol fel eich bod yn ymwybodol bod y prosesu’n gyfreithlon, ac yn gallu gwirio hynny. Gallwch gael yr wybodaeth ganlynol: a) cadarnhad bod eich data’n cael ei brosesu; b) mynediad at eich data personol. Darparwn y wybodaeth yma o fewn mis i’r cais ac yn rhad ac am ddim.
  • Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro eich data personol os yw’n anghywir neu’n anghyflawn.
  • Mae gennych hawl i ofyn am gael dileu neu dynnu eich data personol lle nad oes unrhyw reswm cymhellol dros barhau i’w brosesu, fodd bynnag dim ond dan amgylchiadau penodol y gellir gwneud hyn. Cewch wybod rhagor ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
  • Mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu’r data, fodd bynnag dim ond o dan amgylchiadau penodol y gellir gwneud hyn. Cewch wybod rhagor ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
  • Mae gennych hawl i symud, i gopïo neu i drosglwyddo data personal yn rhwydd o’r naill amgylchedd technoleg gwybodaeth i’r llall mewn modd diogel a sicr, heb rwystr i ddefnyddioldeb. Gelwir hyn yn “cludadwyedd data”. Byddwn yn darparu hyn ar ffurf cyffredin strwythuredig sy’n ddarllenadwy gan beiriant, yn rhad ac am ddim, a byddwn yn ei anfon atoch ymhen mis yn dilyn y cais.
  • Ar hyn o bryd, rydyn ni’n dal i ddatblygu system feddalwedd fydd yn caniatiáu i chi ddileu eich cyfrif Plwg eich hun. Wrth i ni ddatblygu’r system yma, gallwch ofyn am i’ch cyfrif gael ei ddileu ar eich tudalen broffil. Gallwch ofyn pa wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei dal amdanoch. Os hoffech gopi o’r wybodaeth a gaiff ei dal amdanoch, cysylltwch â ni i gael Ffurflen Gais Mynediad at Bwnc, neu ysgrifennwch aton ni drwy:

Cais am Ddata Plwg
Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig
Neuadd Dewi Sant,
Yr Aes,
Caerdydd, CF10 1AH

Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth rydyn ni’n ei dal amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch aton ni cyn gynted â phosib drwy’r cyfeiriad uchod. Byddwn ni’n cywiro unrhyw wybodaeth y ceir ei bod yn anghywir yn syth.

The best online JS tools can be found at HTML-CSS-JS.com: script beautifier, compressor, cheat sheet or just read the blog.

Creu Cyfle

Dewch o hyd i’ch partner perffaith. Creu Cyfle ar Plwg