Datblygwyd Plwg gan Rwydwaith Celfyddydau ac Addysg A2:Clymu, a oedd yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig. Roedd A2:Clymu yn rhan o’r prosiect Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg a ariannwyd gan raglen Cyngor Celfyddydau a Llywodraeth Cymru, Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau - cynllun gweithredu i Gymru.
Deilliodd Plwg o waith ymchwil a datblygu a gynhaliwyd ar y pryd gydag athrawon a phobl greadigol, i ddod o hyd i ddatrysiad hawdd ei ddefnyddio er mwyn i’r sectorau celfyddydau a diwylliannol ac addysg gydweithio.
Mae Plwg bellach yn cael ei reoli gan dîm yn Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.