Mae Tîm Cwricwlwm Caerdydd wedi’i sefydlu o dan faner Ymrwymiad Caerdydd fel tîm o athrawon i gefnogi cyfoethogi’r cwricwlwm trwy gefnogaeth partneriaid. Fi yw arweinydd y Celfyddydau Mynegiannol ar y tîm ac yn brocera cydweithrediadau, creu adnoddau, gweithredu ymchwil a datblygu, adeiladu cwricwla a mwy. Yn bersonol, mae gen i ddegawd o brofiad yn y diwydiant teledu, ac yna degawd mewn addysg gynradd.
Rwyf wedi bod yn y rôl hon ers dwy flynedd a hanner ac yn parhau i ddatblygu fy nealltwriaeth o ddylunio’r cwricwlwm a’r diwydiant celfyddydau mynegiannol, dau o’m hoffterau. Ar hyn o bryd, rwy'n cynnal fforwm o bartneriaid Celfyddydau Mynegiannol, yn aelod o fwrdd rheoli Theatr Taking Flight ac yn Lysgennad i Into Film - Yn ogystal, rwy'n aelod o gyngor cenedlaethol UCAC ac yn parhau i hwyluso trafodaethau Rhwydwaith Cenedlaethol ar weithredu cwricwlwm ar gyfer Llywodraeth Cymru.