plwg-logo

Dafydd Parri

Mae gen i dros 25 mlynedd o brofiad fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu ar amrywiaeth o raglenni yn cynnwys dogfen, cerddoriaeth, adloniant ysgafn a hysbysebion. Cyn gweithio ym myd teledu roeddwn yn athro, a bûm yn gyfrifol am gynllunio a rhedeg cwrs “dysgu trwy brofiad” arloesol mewn cynhyrchu teledu, fel rhan o’r cynllun Addysg Dechnegol a Galwedigaethol (ADAG). Enillodd y disgyblion oedd yn gwneud y cwrs nifer o wobrau cenedlaethol am gynhyrchu fideos. Rwyf wedi rhedeg gweithdai gyda disgyblion Ysgol Dyffryn y Glowyr, Cwmtwrch dan nawdd y Cynllun Ysgolion Creadigol. Rwyf hefyd wedi gweithio yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pencae Caerdydd, gyda ddisgyblion Abl a Thalentog ac Arweinyddion Digidol blwyddyn 6. Bûm hefyd yn gweithio gyda disgyblion blwyddyn 8 Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd, sydd wedi sefydlu bwletin newyddion wythnosol i fynd ar wefan yr ysgol.

    1. Asiant a chynhyrchydd creadigol gyda Creadigidol Cyf

    Creu Cyfle

    Dewch o hyd i’ch partner perffaith. Creu Cyfle ar Plwg