plwg-logo

Rhodri Trefor

Dwi'n actor proffesiynol sydd wedi gweithio ar nifer o raglenni teledu a theatr fel y gwelir isod. Rwyf hefyd yn athro Drama cymwys sydd wedi cwblhau cwrs TAR yn 2017. Gellir gweld fy mhrofiad addysg isod. Credaf fod y profiadau rwyf wedi eu cael yn fy ngalluogi i greu a chynnal gweithdai sydd yn greadigol ac yn gwthio meddyliau phlant a phobl ifanc. Rwy’n hyderus yn fy ngallu i greu cyrsiau/ gwersi yn ymwneud ag elfennau perfformio o actio, canu i ysgrifennu creadigol. Rwyf hefyd wedi dysgu Cymraeg yn ysgol Gartholwg ac yna fel tiwtor oedolion Cymraeg llawn amser yn Nant Gwrtheyrn. Yn sicr felly byddai hyn yn fy ngalluogi i gynnal cyrsiau sydd yn gallu datblygu sgiliau iaith a llafaredd disgyblion. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda sawl chwmni theatr mewn addysg dros y blynyddoedd (Arad Goch, Fran Wen, Bara Caws, Shimli,) fel actor. Fy nghyfrifoldebau gyda’r swyddi hyn fyddai perfformio i ddisgyblion (mewn theatr neu yn yr ysgol) a dilyn y perfformiad gyda gweithdai ar bwnc perthnasol i’r perfformiad. Rwyf wedi arwain sawl gweithdy dros y blynyddoedd gan ddilyn gyda gwaith ymarferol a chwestiynu effeithiol. GWAITH ACTIO: (2004-2020) TELEDU: RYBISH (CWMNI DA), DADRA (Cwmni THR), ARTHUR A MARCHOGION Y FORD GRON (lefel dau), Dennis a Dannedd (lefel dau), POBL Y CWM (BBC), DARREN DRWS NESA (RONDO), ROWND A ROWND (RONDO), GWLAD YR ASTRA GWYN (RONDO), DDOE AM DDEG (1 & 2) (RONDO) , ZANZIBAR(RONDO), CEI BACH (Cyfres 1 & 2) (SIANCO) , TIPYN O STAD (TONFEDD ERYRI), TALCEN CALED (FFILMIAU’R NANT), EMYN ROC A RÔL (TONFEDD ERYRI). THEATR: CHWALFA (THEATR GENEDLAETHOL), MORDAITH MADOG (ARAD GOCH), 100 (BARA CAWS), TAFLIAD CARREG (ARAD GOCH), BUS STOP (SHIMLI), LLYNCU GEIRIAU (ARAD GOCH), WEJI (FRAN WEN), DWISHO DRINGO COEDEN (FRAN WEN), DEWIS DEWIS DAU DDWRN (BARA CAWS). FFILM: GWARTH (ON PÂR PRODUCTION), OFF THE PITCH (MALI), BILINGUAL BANK JOB (IT’S MY SHOUT), FIDEO CERDDORIAETH-‘TEXAS RADIO BAND’ (MALI). RADIO BLYDI EISTEDDFOD (Cwmni THR) (BBC Radio 4, BBC radio Cymru), LLWYBR NEWYDD (little lamb Productions) ADDYSG: TAR Cwrs dysgu Prifysgol Aberystwyth 2016-2017 HYFFORDDIANT DRAMA • BA: Theatr, Cerdd a’r cyfryngau - Coleg y Drindod Caerfyrddin 2001-2004- 2:2 • Drama Lefel A PROFIAD ADDYSG • Athro Llanw 2017-2020 Mewn amrywiaeth o ysgolion Uwchradd a Chynradd ledled Caerdydd ac yng Ngwynedd. • Dysgu Cymraeg i Oedolion ar gyrsiau preswyl (2018-2020) yn Nant Gwrtheyrn. Dysgu cyrsiau Cymraeg dwys i ddysgwyr Cymraeg o bob lefel o ddechreuwyr pur hyd at y cyrsiau Uwch. Gyfrifol am greu a pharatoi adnoddau ac addasu'r cyrsiau fel bod angen. Bues yn gyfrifol am greu cwrs Uwch 2 am ‘Arwyr a dihirod Cymru’ yn ystod yr haf gan lenwi’r cwrs a chael adborth gwych. • Addysgu Drama, Cyfryngau a Chymraeg - Ysgol Gartholwg (2017 - 2018) - Gyfrifol am gynllunio gwersi am y flwyddyn yn ogystal â pharatoi cynlluniau ac adnoddau o ddydd i ddydd. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd a byddai angen o fewn yr adran a bod yn gymorth i adrannau eraill o fewn yr ysgol yn gyffredinol. Gyfrifol am farcio’n fanwl a cheisio paratoi pob disgybl gorau posib er mwyn gwneud cynnydd drwy gynllun manwl a’u paratoi ar gyfer eu harholiadau.

    Creu Cyfle

    Dewch o hyd i’ch partner perffaith. Creu Cyfle ar Plwg